(
IMDb)
"OH! You ARE sick!"
hehehe.
Dychrynllyd, ffilm sydd mor ddwfn yn psyche David Lynch nad ydi'n hawdd ei wylio, ond eto...ma na rywbeth yn fy nhynnu nol. Mae 'na synnwyr dwi'n dweud wrth fy hun, mae hwn yn taro rhai nodau rywle yn fy mhen!
Ydi o am ofn cael plant, cyfrifoldeb, am erthylu hyd yn oed? Oll o berspectif dyn, dyn sydd yn ofnus, bryderus, ansicr. Mae ei holl ofnau yn dod yn wir, mae ei wraig yn ei adael, mae hi'n gadael y babi, mae'r babi'n mynd yn sal, mae'n cael ei ymwrthod gan y ddynes drws nesaf - y ddynes mae'n ei geisio er mwyn dianc ei fywyd tragwyddol wael. Yr unig gysur yw'r 'ddynes yn y radiator', y ddynes fochdew yn canu'r mantra "Yn y nefoedd, mae pob dim yn iawn": ei is-ymwybod yn dweud wrtho am ladd ei hun, bydd popeth yn iawn pan ei di o;r byd hwn. Fydd dim problem gen ti. Yn y diwedd mae ei euogrwydd am ladd ei blentyn (erthylu ei fabi?, dydi'r babi ddim wedi tyfu o gwbl drwy'r ffilm ac mewn rhyw stad o gyn-anedigrwydd ffoetysaidd, alien).
Dwi ddim yn deall y darn lle mae'r bachgen yn dwyn ei ben a gwneud rwbiwr pensal allan ohono...rhywun rhywle ar Imdb wedi amwgrymu fod hyn i wneud a'r bosys yn cymryd mantais o weithiwyr gymaint eu bod yn llythennol ddefnyddio cyrff eu gweithwyr i wneud arian. Dwn im...rhagor ar
pictiwrs.com...