Yn UGC efo lot o stiwdants sdinci (na wir, oedd yr ogla BO yn reit gryf yna...falla fi oedd o...).
Ffilm ma mor sili, stylised, setiau gor-amleg. joio fo lot er fod y print yn gachu ac yn sgipio. Y diwedd wastad yn unsatisfying braidd ddo...ta waeth, clasur.
(IMDb)
Ma'r Coreaid yn sicr yn gneud rhai o'r ffilmiau mwya ffycd yp ar y foment. Di hon ddim yn eithriad, ambell i foment i droi'r stumog sy'n ymwneud a llyncu llond llaw o fachau 'sgota...
Mae wedi e isaethu'n hyfryd gyda'r golygfeydd o'r tai sgota sy'n arnofio ar y llyn yn cadw'r gynulleidfa i fynd efo'r pace araf. Stori gariad yw hi yn y bon, ond stori gariad rhwng dau berson sydd wedi eu difrodi yn feddyliol.