12.12.04

Dawn of the Dead (George A. Romero, 1978)

(IMDb)

Zombies, penna'n ecsplodio, comedi, tensiwn anghygoel i feddwl taw mond yn araf ma'n nhw'n gallu mynd. Class.

State and Main (David Mamet, 2000)

(IMDb)

Darn ensemble doniol iawn, gyda sgript finiog a chymeriadau byw (gor-fyw ell, ond na fo, pobol Hollywood ydyn nhw).

Lawrence of Arabia (David Lean, 1962)

(IMDb)

Wel, o'n i'n sal felly gymris i fantais o'r sefyllfa i daclo'r bohemoth 4-awr hon a diawl nes i fwynhau. dydi'r ffilm ddim yn dragio o gwbl ac mae datblygiad Lawrence i "Orens" yn un trawiadol a dydach chi byth yn wir hoffi'r boi, mae ei falchder a'i chwant am waed yn sdopio chi rhag gnweud hynny. Mae'r undertones homo-erotic yn reit amlwg yn y ffilm 'fyd sy'n ddiddorol, gyda'i berthynas gyda chymeriad Sharif a'i ddau was a'r eyeliner ofnadwy na!

Felly ffilm dda, yn dechnegol anghygoel (er dwi di ffendio allan ers hynny eu bod nhw di cheatio chydig drwy saethu llawer ohono ym Merthyr Mawr!) a gyda phob agwedd yn cyrraedd nod uchel: y sdori, y datblygiad cymeriad, y sgript cofiadwy...ayyb allai weld sut ma rhai pobol yn ei galw'n glasur, mae'n debyg ei bod hi'n brofiad reti ysgytwol mewn sinema gyda thy llawn.

To Kill a Mockingbird (Robert Mulligan, 1962)

(IMDb)

Jest hynod afaelgar a theimladwy.