13.7.04

Digital Shorts

Newydd wylio casgliad Digital Shorts ges i am ddim efo Sight and Sound mis Ebrill. Cafodd y 10 ffilm (hyd at 10 munud o hyd) oll eu gwneud am tua £10,000 yr un, a'u comisiynu gan Gyngor Ffilm y DU a'r Asiantaethau Sgrin Saesnig.

O'r deg roedd na dri yn sefyll allan:

Job Street gan Mathew Santiago Whitecross: ffilm fer hynod bwerus waneth adael marc arnai.

"Lou-Lou Lives Here" gan Hazel Grian: ffilm disturbing arall yn defnyddio'r cyfrwng digidol i effaith wych

ac yn ola

"The First Time It Hits" gan Jason Budge: Ffilm fer am gariad trawiadol (yn llythrennol) rhwng dau skater ifanc. Hefyd wedi defnyddio'r cyfrwng yn llawn ac yn ffilm fach ddoniol iawn a dim ond 3 munud - neis.

Oedd y gweddill yn ddiflas ac aniddorol iawn. Ma'n gymaint o grefft gneud ffilm fer...

Dyma'r erthygl "Eat My Shorts" gan James Bell a ymddangosodd yn Sight and Sound Ebrill 2004, i gyd-fynd a'r DVD.