26.7.04

Noson Ffilmiau Byr P.O.V, Dempsey's, Caerdydd

Newydd fod i'r noson wych hon. Digon o drafod a sgyrsia difyr a llwyth o ffilmiau byr wrth gwrs - 11 yn oll ond dim ond 4 oedd yn taro naw(deg? yr hoelen (wyth?) ar ei phen (i'r pared?)):

Royalty (Paul Williams) - portread gafaelgar a thywyll o strydoedd Llundain
- Gwyliwch y ffilm fan hyn

Jump/Cut (Tom Betts) - byryn byr iawn gan Gymro (wel ma'n byw ma beth bynnag...), wedi ei wneud drwy gyfres o stills. Syml ag effeithiol.

The Fastest Milkfloat In The World (Rachel robey ac Al Clark) - dogfen fach ddoniol mewn ffordd ysgafn ffwrdd a hi am dorri land sbid-record milkfloats.

Short (Waris Islam) - treialon dyn byr mewn byd llawn pobol tal ar y Tiwb. Dim deialog o gwbl, enghraifft o sinema da, os wedi stretsho'r pwynt ryw fymryn.