13.9.04

Alien: Resurrection (Jean-Pierre Jeunet, 1997)

(IMDb)

Yr ail ffilm gyda Ron Perlman ynddo mewn un diwrnod! Oedd o'n dda iawn fan'ma 'fyd. Biti am waith cyfarwyddo Jeunet. O'n i'n disgwyl gwell, gan y genius wnaeth Amelie, Delicatessen a City Of Lost Children ond ar wahan i ddefnyddio Dominique Pinon (sydd a'r acen semi-american/Ffrengig waetha 'rioed) does dim byd newydd. Reit ddifyr am bach o hwyl ond dim patsh ar Alien ag Aliens.