18.1.05

À bout de souffle / Breathless (Jean-Luc Godard, 1960)

IMDb
Llawer gwell na "Bande A Part". Thriller ara deg fel rhech mewn pot jam os oes ffasiwn beth!

Darllen wedyn am Seberg ei bod hi wedi methu gwneud unrhywbeth o'i gyrfa wedi hyn a marw'n ifanc o ovewrdose Barbiturates nid nepell o'r man y'i gwelir ar gychwyn y ffilm yn gwerthu yr NY Herald Tribune. Trist iawn - roed hi'n gorjys - dwi'n meddwl dwi efo thing am genod efo gwallt byr fel'na. Mmm.

Belmondo hefyd yn super-cool efo'i ffag anferth yn hongian allan o'i geg yn ddi-baid ac yn dwyn ceir ac arian yn ddi-ymdrech jest er mwyn bod efo'r unig hogan iddo ddisgyn mewn cariad a hi. Aah.

The Ipcress File (Sidney J. Furie, 1965)

IMdb
Ffilm ffab a Caine yn sych fel bogel bugail yn Basra.

Avalon (Mamoru Oshii, 2001)

IMDb
Wedi disgwyl myw gan greawdwr Ghost In The shell, ond roedd ei antur i fyd "live action" (a hwnnw mewn Pwyleg!) yn un wael.

eXistenZ wedi ei ddeiliwtio ddeng gwaith - fethish i ei gorffen wedi i mi ddisgyn i gysgu ynddi ddwywaith.

Sjunde inseglet, Det (Ingmar Bergman, 1957)

IMDb
Ffilm roeddwn i'n meddwl oedd am fod yn annodd i gael mewn iddo, ond na, roedd fy antur gynta i fyd Bergman yn un pbelserus iawn. Myfyrdod wych ar farwolaeth, bywyd, crefydd, credo - y cwestiynau mawr - ac oll mewn ffordd sydd ddim yn gor athronyddu yn gymhleth ond yn gwneud hynny drwy gymeriadau, sdori a darluniau.

Dallt rwan pam fod pobol yn galw fo'n feistr.

Fa yeung nin wa / In The Mood For Love(Kar Wai Wong, 2000)

IMDb
Campwaith.

Dwi'm yn meddwl mod i wedi gweld cariad mor electric ar seliwloid ers Bogart a Bacall yn "To Have And Have Not" ac oll amn y rheswm nad oes rhyw, dim hyd yn oed cusan i;w weld - ond mae'r edrychiad yn codi iasau, a'r ysfa guddiedig wedi'w garcharu gan taboos ymddygiad parchus cymndeithas Hong Kong.

Mae hi'n onchneidiol o brydferth ac mae gwsigoedd Maggie Cheung rhai o;r darnau o ddefnyddd mwy prydferth i fi eu gweld ar ddynes yn fy myw - dim gorddweud - mae'n nhw'n anghygoel o brydferth.

Hyn oll, a sineamtograffi, goleuo a fframio deallus drwy ddrysau, ffenstri a rownd cornel drws yn ychwnaegu at y teimlad o serch rhwystredig sy'n treiddio drwyddi.

Diolch byth fod "2046" yn dod allan wythnos nesaf...aaah.

Uccello dalle piume di cristallo, L' / The Bird Of Crystal Plumahe(Dario Argento, 1970)

IMDb
Ffilm gyntaf Argento ac mae'n dangos yn y pace a'r actio, ond eto mae'r un cyffyrddiadau meistrol o liw ac onglau camera yn codi'r r sdori slasher gymhleth os chydig yn sili ar adegau - ond dyna ran o beth sy'n gneud i fi lecio'r ffilm.

The Station Agent (Thomas McCarthy, 2003)

IMDb
Neis iawn.

The Birth of a Nation (D.W. Griffith, 1915)

IMDb
O'n i'n meddwl ei fod yn oce iddechrau tra'n sonb ma y rhyfel cartref (er yn sylwi fod pobol ddu yn cael eu actio gan bobol gwyn neu mewn ffordd anghygoeol o steretypical), ond wedi iddo fynd i ran dau a brwydr arweinwyr pbolohgaeth ddu y de a'r Klansman, o'n i jest ddim isio gweld rhagor. Erthyl o ffilm, sy'n clodfori y Klan. Oedd gen i ddim taw y math yna o ffilm oedd o. Ach a pach.

Badlands (Terrence Malick, 1973)

IMDb
Jest angan fy fix...

Team America: World Police (Trey Parker, 2004)

IMDb
Bach yn crap rili.

Radio On (Chris Petit, 1980)

IMDb
Road movie existential Prydeinig. Soundtrack gwych, edrych yn gret, chydig rhy araf ac inaccessible - ond dyna di'r pwynt...

Shi mian mai fu / House Of Flying Daggers (Yimou Zhang, 2004)

IMDb
Serious sdeil, ond sdim sylwedd.

Not Only But Always (Terry Johnson, 2004) (TV)

IMDb
Rhys Ifans yn argyhoeddi'n llwyr.

Good Bye Lenin! (Wolfgang Becker, 2003)