18.1.05

À bout de souffle / Breathless (Jean-Luc Godard, 1960)

IMDb
Llawer gwell na "Bande A Part". Thriller ara deg fel rhech mewn pot jam os oes ffasiwn beth!

Darllen wedyn am Seberg ei bod hi wedi methu gwneud unrhywbeth o'i gyrfa wedi hyn a marw'n ifanc o ovewrdose Barbiturates nid nepell o'r man y'i gwelir ar gychwyn y ffilm yn gwerthu yr NY Herald Tribune. Trist iawn - roed hi'n gorjys - dwi'n meddwl dwi efo thing am genod efo gwallt byr fel'na. Mmm.

Belmondo hefyd yn super-cool efo'i ffag anferth yn hongian allan o'i geg yn ddi-baid ac yn dwyn ceir ac arian yn ddi-ymdrech jest er mwyn bod efo'r unig hogan iddo ddisgyn mewn cariad a hi. Aah.