28.7.04

Vozvrashcheniye / The Return (Andrei Zvyagintsev, 2003)

(IMDb)

Hynod, hynaws, hyfryd...neshi dorri nghalon yn deilchion. Bron yn fud yn gadael y sinema. Dal i feddwl yn ddwys amdani ddwyawr yn ddiweddarach ac i dorri nghalon i'n waeth, darllen ar negesfwrdd IMDb y ffilm fod yr actor 15 oed, hynod dalentog, Vladimir Garin oedd yn portreadu cymeriad Andrey, wedi boddi yn yr union lyn a saethwyd y ffilm brin 3 mis wedi iddynt orffen saethu.

Gobeithio caiff y cradur bach heddwch.