29.9.04

Blade Runner (Ridley Scott, 1982)

(IMDb)
O'n i angen fix...gorfod cael bob yn hyn a hyn. Fy hoff ffilm yn y byd, o bosib.

27.9.04

Moulin Rouge! (Baz Luhrmann, 2001)

(IMDb)

Mighty Wind, A (Christopher Guest, 2003)

(IMDb)

Anatomie (Stefan Ruzowitzky, 2000)

(IMDb)

Ying xiong (Yimou Zhang, 2002)

(IMDb)

22.9.04

Third Man, The (Carol Reed, 1949)

(IMDb)
Ffilm wych, haeddu'r pob owns o'r clod dwi di glywed a'i ddarllen amdani. Dwisio gwylio hi eto.

Code 46 (Michael Winterbottom, 2003)

(IMDb) Disgwyl gwell gan y Gaeafdin.

21.9.04

Ai no corrida / In The Realm Of The Senses (Nagisa Oshima, 1976)

(IMDb)
Llond y lle o S ag M eithafol, ffilm sy'n honni i fod yn erotig on mor erotig a gwylio dau ddraenog yn ffwcio (hmm, ma hwnna fatha S ag M hefyd dydi rywsut...).

Serch hynny, mae'n adeiladu i fod yn ffilm sy'n tarfu ar rywun yn yr un modd ag y mae Audition wedi llwyddo i wneud 3 degawd yn ddiweddarch. A deud y gwir faswn i'n taeru fod Miike wedi ei ddylanwadu gan y ffilm hon. O'n i'n reit shocd, nid gan y rhyw, ond gan eithafiaeth dychrynllyd chwant Sada. Feri sgeri.

14.9.04

Parallel Lines (Nina Davenport, 2004)

(IMDb)

Ffilm ddogfen wych arall o stabal Storyville ar BBC4. Mae Davenport yn llwyddo i gael yr holl bobol ma ma hi'n ycyfarfod i siarad a deud eu straeon dyfna tra'n rhoi darlun gweledol a thrawiadol o;i siwrna hi nol i'w fflat yn Efrog Newydd wedi i erchylldra y gefeill-dyrrau ddigwydd.

Mae siarad a 'tease out'(Cym?) straeon yn ddawn angenrheidiol i ddogfenwraig - gneud i fi feddwl am ethics dogfennu:

Proffid a ethics yng ngwneuthuriad ffilmiau dogfen [o kamera.co.uk]

MediaRights
- Gwefan ar hawliau gwneuthurwyr ffilmiau dogfen

Cyfweliad a hi yma a gwefan offisial y ffilm.

13.9.04

Alien: Resurrection (Jean-Pierre Jeunet, 1997)

(IMDb)

Yr ail ffilm gyda Ron Perlman ynddo mewn un diwrnod! Oedd o'n dda iawn fan'ma 'fyd. Biti am waith cyfarwyddo Jeunet. O'n i'n disgwyl gwell, gan y genius wnaeth Amelie, Delicatessen a City Of Lost Children ond ar wahan i ddefnyddio Dominique Pinon (sydd a'r acen semi-american/Ffrengig waetha 'rioed) does dim byd newydd. Reit ddifyr am bach o hwyl ond dim patsh ar Alien ag Aliens.

Phone (Byeong-ki Ahn, 2002)

(IMDb)

Un arall o'r copycats Ringu, cwpwl o ddarnau da gyda'r plentyn bach yn fffricio allan ond dim digon o scares gwahanol i ddal salw. Faint o weithia ma nhw'n disgwyl i ysbrydion genod efo gwallt hir fod yn sgeri? A triwch ffendio ffor arall o grossio allan na gwinadd yn torri...

Mediocre, a ma hynny'n bod yn garedig.

12.9.04

Aleksandr Nevsky (Sergei M. Eisenstein / Dmitri Vasilyev, 1938)

(IMDb)

Weles i ail hanner hwn ac roedd o yn top notch. Sna'm llawer o battle scenes mor dda a hynny rwan a gafodd hwn ei wneud yn 1938!

Hellboy (Guillermo del Toro, 2004)

(IMDb)
Joio mas draw, sili iawn, ond roedd o mor sili ei fod yn bleser.

Dr. Terror's House of Horrors (Freddie Francis, 1965)

()

Ddim yn Hammer Horror, ond un gan gwmni Amicus yn ol rhai o sylwadau IMDb. Oed o'n shite beth bynnag - straeon anghygoel o wael, actio pren - effeithiau arbennig chwerthinllyd (ond yn meddwl bod nhw'n dda). Yr unig beth da oedd y gyda Roy Castle fel trwnmpedwr jazz yn dwyn tiwns voodoo o rywle yn y West Indies (a mae dynwarediad Roy o acen caribiaidd yn hileriys o cringey - mae'n swnio fel Sais yn trio gneud acen De Cymru ond llwyddo i neud acen led-Indiaidd).

Super Size Me (Morgan Spurlock, 2004)

(IMDb)

Da iawn. Tebyg iawn o ran steil whacky graphics ac animations i sdwff Michael Moore, ond mae'n taro'r neges yn syth i'ch pen heb roi fyny. A neges go gryf ydi 'fyd, dwi'm isio cyffwrdd fast food am dipyn go lew eto...

11.9.04

Mies vailla menneisyyttä / The man without a past (Aki Kaurismäki, 2002)

(IMDb)

Rioed wedi gweld ffilm efo steil fel hyn o'r blaen, theatrig iawn, bron fel ei fod i edrych yn llwyfanog. Actio heb ddangos emosiynau ar eu gwynebau a deialog annaturiol. Mae'n gweithio rywsut hefyd, er ddim yn hollol foddhaol.

3.9.04

Hamburg Cell, The (Antonia Bird, 2004) (TV)

(IMDb)

Digon difyr o'r hynny welish i ond wnes i ddisgyn i gysgu ambell waith tuag at y cleimacs. Oedd y miwsig yn deud "thriller-ydi-hwn-ti-fod-yn-effro", ond roedd fy llygid isio rest. Deud lot hynny, dydi?

Oedd o'n lawer mwy trawiadol ar sgrin y sinema? Achos competent oedd o ar y sgrin fach. Be oedd y ffys mawr?

Dodgeball: A True Underdog Story (Rawson Marshall Thurber, 2004)

(IMDb)

Sili iawn, nesh i chwerthin llond y mol a bron a piso nghlos yn rhai darnau. Un i gael ar dvd a gwylio nos Sad r'ol dod nol o pyb/bora Sul efo hangofyr...