21.9.04

Ai no corrida / In The Realm Of The Senses (Nagisa Oshima, 1976)

(IMDb)
Llond y lle o S ag M eithafol, ffilm sy'n honni i fod yn erotig on mor erotig a gwylio dau ddraenog yn ffwcio (hmm, ma hwnna fatha S ag M hefyd dydi rywsut...).

Serch hynny, mae'n adeiladu i fod yn ffilm sy'n tarfu ar rywun yn yr un modd ag y mae Audition wedi llwyddo i wneud 3 degawd yn ddiweddarch. A deud y gwir faswn i'n taeru fod Miike wedi ei ddylanwadu gan y ffilm hon. O'n i'n reit shocd, nid gan y rhyw, ond gan eithafiaeth dychrynllyd chwant Sada. Feri sgeri.