30.7.04

DVD Ffilmiau Byr Prydeinig Cinema 16

(IMDb y DVD) (Gwefan Offisial y DVD)

About a Girl (Brian Percival, 2001) - ddim yn byw fyny i'r heip - rhy debyg i'r Fast Show

Doodlebug (Christopher Nolan, 1997) - oce, yr SFX chydig yn ropey erbyn hyn. Syniad bach swreal.

Joyride (Jim Gillespie, 1995) - digon o densiwn ond yn y dweidd mae'n rhy wirion o lawer - dim rhyfedd aeth o mlaen i neud "I Know What You Di Last Summer"

Inside-Out (Tom & charles Guard, 1999) - ddim yn sbesh, trio bod yn Chaplinaidd ond dod yn fyr iawn o hynny

Short and Curlies, The (Mike Leigh, 1987) (TV) - doniol iawn a Thewlis yn wych fel arfer.

Telling Lies (Simon Ellis, 2001) - Ffantastic o syml, yr orau o fwnsh heno.

UK Images (Martin Parr, 1997) - ffilm fer ddogfen, isio gweld mwy o hwn.

29.7.04

Dwi'n mynd i'r Pictiwrs.com

Mae'n debyg gan fod Macsen wedi ei flogio a thipyn o gofnodion ar y wefan erbyn hyn ei bod yn amser mynd Pictiwrs.com yn gyhoeddus.

Blog grwp, gyda adolygiadau ffilm, a phostiadau am unrhywbeth i wneud a ffilm ar y we neu yn cigfyd. Ewch nawr!

28.7.04

Vozvrashcheniye / The Return (Andrei Zvyagintsev, 2003)

(IMDb)

Hynod, hynaws, hyfryd...neshi dorri nghalon yn deilchion. Bron yn fud yn gadael y sinema. Dal i feddwl yn ddwys amdani ddwyawr yn ddiweddarach ac i dorri nghalon i'n waeth, darllen ar negesfwrdd IMDb y ffilm fod yr actor 15 oed, hynod dalentog, Vladimir Garin oedd yn portreadu cymeriad Andrey, wedi boddi yn yr union lyn a saethwyd y ffilm brin 3 mis wedi iddynt orffen saethu.

Gobeithio caiff y cradur bach heddwch.

26.7.04

Noson Ffilmiau Byr P.O.V, Dempsey's, Caerdydd

Newydd fod i'r noson wych hon. Digon o drafod a sgyrsia difyr a llwyth o ffilmiau byr wrth gwrs - 11 yn oll ond dim ond 4 oedd yn taro naw(deg? yr hoelen (wyth?) ar ei phen (i'r pared?)):

Royalty (Paul Williams) - portread gafaelgar a thywyll o strydoedd Llundain
- Gwyliwch y ffilm fan hyn

Jump/Cut (Tom Betts) - byryn byr iawn gan Gymro (wel ma'n byw ma beth bynnag...), wedi ei wneud drwy gyfres o stills. Syml ag effeithiol.

The Fastest Milkfloat In The World (Rachel robey ac Al Clark) - dogfen fach ddoniol mewn ffordd ysgafn ffwrdd a hi am dorri land sbid-record milkfloats.

Short (Waris Islam) - treialon dyn byr mewn byd llawn pobol tal ar y Tiwb. Dim deialog o gwbl, enghraifft o sinema da, os wedi stretsho'r pwynt ryw fymryn.

Trois couleurs: Bleu (Krzysztof Kieslowski, 1993)

(IMDb)
Sybleim.

25.7.04

Before Sunset (Richard Linklater, 2004)

(IMDb)
Ffilm fach braf, yn dilyn ail-gyfarfyddiad Delpy a Hawke 9 mlynedd wedi iddynt dreulio noson o gariad yn Vienna (ffilm Before Sunrise gan yr un cyfarwyddwr) a cholli cyswllt a'u gilydd. Dwi'm yn meddwl gollish i lot o beidio gweld Before Sunrise. Chydig bach yn ysgafn ar adegau, Delpy'n siarad gormod braidd a Hawke chydig yn 'noying, ond os am ffilm ramant sydd ddim a crystun llawn caws ma hon yn un ddigon pleserus.

Big Lebowski, The (Joel Coen, 1998)

(IMDb)

"The Dude abides..." - gwella bob tro.

Once Upon a Time in Mexico (Robert Rodriquez, 2003)

(IMDb)
Twrdyn gwlyb o ffilm, ni all hyd yn oed cymeriad difyr Depp achub y ffilm ddiflas, ddi-siap, ddi-bwynt hwn.

23.7.04

3-4x jugatsu / Boiling Point(Takeshi Kitano, 1990)

(IMDb)

Ddim yn arbennig. Edrych yn gret, ond, doedd y naratif ddim yn gneud llawer o synnwyr a heb fawr arall i gadw diddrodeb roedd o'n mynd yn inaccessible braidd. Siomedig, gan mod i fel arfer yn caru sdwff Kitano...

*Heb Wylio'n ddiweddar* Music of Chance, The (Philip Haas, 1993)

(IMDb)

Neshi jest cofio am hon heddiw a chael awydd mawr ei gweld eto, jest rhoi hi fama i gael cofio nai gyd.

22.7.04

Days of Heaven (Terrence Malick, 1978)

(IMDb)

Aah, Malick, genius llwyr. Gweledol drawiadol, dyfnder emosiynol a pherfformiadau gafaelgar. Ddim cweit yn cyrraedd uchafderau Badlands ond mae'n dangos lle roedd Malick yn anelu. Angen ail-wyliad yn barod. Mae ei gyffyrddiad cyfarwyddol mor ysgafn ond eto mae ei ffilmiau mor llawn, mae'n llenwi calon rhywun. Mae pob golygfa wedi ei fframio fel un o'r ffotograffau gorau welsoch chi erioed ac yn pelydru hyfrydedd. Gor-ddweud? Mae'r ffilm yma wedi cadarnhau i fi fod Malick yn un o'r cyfarwyddwyr ffilmiau Americanaiadd gorau o'i genhedlaeth.

21.7.04

Spider-Man 2 (Sam Raimi, 2004)

(IMDb)
Da iawn. Alfred Molina yn dwyn y sioe fel Doctor Octopus.

20.7.04

Ffilmiau Byr Golden Pixil 2003

Sbio ar enillwyr cystadleuaeth Golden Pixil 2003, doedd y rhai live action ddim yn anghygoel on roedd y rhai yn gret, yn arbennig ffilmiau gan Mike Day a Ross Woodfield.

Mae'r rhai 3D hefyd yn dda, os chydig yn wishi washy.

Dwi'n credu gellir llwytho "Of Man And Fish" o http://www.junkscience.co.uk/

Man on the Moon, The (Cory McAbee, 1993)

(IMDb)

Gwefan offisial y ffilm fer yma am foi yn mynd yn wallgo ar roced yn y gofod.

Ketchup and Mustard Man, The (Cory McAbee, 1994)

(IMDb)
Ffilm fer o safon. Swreal ar y naw.

15.7.04

Nathalie... (Anne Fontaine, 2003)

(IMDb)

Ffilm am wleidyddiaeth rhywiol y bourgoisie Parisienne. A ffilm ffycin ddiflas hefyd. Lot o syllu i wacter gan Ardant, Beart yn edrych yn hyfryd serch hynny. Doedd y denouement oedd ddim rili yn denouement ddim yn sbwylio ffilm, oed yn wael o'r marc hanner awr ymlaen.

Fel darganfod caca vache yn eich soupe a l'oignon.

Cooler, The (Wayne Kramer, 2003)

(IMDb)

Ffilm fach neis. Maria Bello yn lyyyyfli ynddo fo. Dim yn siwpyr sgini, ond curvy, chydig yn wobli mewn llefydd. Mmmm.

Ahem. Betyh bynnag.

13.7.04

Guardian Film - Sinema ar y We Gorffenaf 2004

Digital Shorts

Newydd wylio casgliad Digital Shorts ges i am ddim efo Sight and Sound mis Ebrill. Cafodd y 10 ffilm (hyd at 10 munud o hyd) oll eu gwneud am tua £10,000 yr un, a'u comisiynu gan Gyngor Ffilm y DU a'r Asiantaethau Sgrin Saesnig.

O'r deg roedd na dri yn sefyll allan:

Job Street gan Mathew Santiago Whitecross: ffilm fer hynod bwerus waneth adael marc arnai.

"Lou-Lou Lives Here" gan Hazel Grian: ffilm disturbing arall yn defnyddio'r cyfrwng digidol i effaith wych

ac yn ola

"The First Time It Hits" gan Jason Budge: Ffilm fer am gariad trawiadol (yn llythrennol) rhwng dau skater ifanc. Hefyd wedi defnyddio'r cyfrwng yn llawn ac yn ffilm fach ddoniol iawn a dim ond 3 munud - neis.

Oedd y gweddill yn ddiflas ac aniddorol iawn. Ma'n gymaint o grefft gneud ffilm fer...

Dyma'r erthygl "Eat My Shorts" gan James Bell a ymddangosodd yn Sight and Sound Ebrill 2004, i gyd-fynd a'r DVD.

12.7.04

Touching the Void (Kevin Macdonald, 2003)

(IMDb)

Aw, coes. Waw, sdori a mynyddoedd.

Er yn dda iawn, falla fasa wedi bod yn well yn y sinema. Dwi'n meddwl nai sdicio at ddringo ar wal yn Merthyr diolch.

11.7.04

Yi yi / A One And A Two (Edward Yang, 2000)

(IMDb)
Anghygoel o ffilm. Amhosib peidio cwmpo mewn cariad a fo, neu falla bo fi di cael gormod o Merlot...na, dim y bwz sy'n siarad.

10.7.04


Gwilym Hughes, Dolgellau a'i Guinness Bwc of Records Posted by Hello

Gwilym Hughes ar gyfer y ganrif newydd!

Ma rhestru ffilmiau'n amlwg yn 'trait' sy'n deillio'n naturiol o Ddolgellau.

Wele sdori Gwilym Hughes, brodor (od) o Ddolgellau sydd wedi gwylio 25,000 o ffilmiau ac sydd yn Llyfr Recordiau Guinness am y gamp hyn.

Ydi hyn fatha pasio'r baton? Ydw i am weithio i gipio coron GH?

Gobeithio ddim wir.

Dyma gychwyn...

9.7.04

Croeso!

Croeso yn wir i'r Sdafell Ddu: Rhestr ffilmiau diflas Rhodri.

Mae hwn yn flog er mwyn i fi gael rhestru ffilmiau dwi di gwylio ymhell i ffwrdd o fy mlog arall - Rwdls Nwdls.

Felly, fan hyn fydd fy rhestr o hyn ymlaen. Ag wrth gwrs fyddai'n postio adolygiadau llawnach ar Pictiwrs.com ac yn postio crap am ffilm, sinema a'r sgrin arian ar maes-e a filmwales.net.

Ymlaen a'r rhestru!